Back to All Events

Oes Angen Newyddiadurwyr?

Bydd Dr Justin Lewis o Brifysgol Caerdydd yn ffocysu ar genhedlaeth iau o newyddiadurwyr ar draws Prydain sydd wedi ennill eu plwy ond sydd yn rhan o chwyldro mewn adrodd a chyfathrebu’r newyddion. Drwy edrych ar ddyfodol newyddion a rol newyddiadurwyr yn yr oes ddigidol bydd y sgwrs yn trafod pwy sy’n gwrando bellach arnynt, a beth yw'r heriau a’r cyfleoedd i'r cyfrwng.

Bydd y panelwyr yn cynnwys Ciaran Jenkins, Steffan Powell a mwy i'w cadarnhau.

Byddwn yn ymdrin ag archebion ar gyfer y digwyddiad hwn gan ddefnyddio Tocyn.Cymru. Yn ystod y digwyddiad hwn, byddwn yn tynnu lluniau ac yn recordio fideos i’w cyhoeddi ar ein gwefan a’n sianelau cyfryngau cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, gweler yr hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan.

Os nad ydych chi eisiau ymddangos mewn unrhyw luniau neu fideos, neu os hoffech ofyn cwestiwn am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio, siaradwch ag aelod o staff y Cynulliad cyn y digwyddiad, neu yn ystod y digwyddiad, neu e-bostiwch GWLAD@cynulliad.cymru.

Earlier Event: 28 September
Pwer y Bledlais - Siartiaeth
Later Event: 28 September
Cymru: Cenedl y Campau