Eich Cynulliad, eich llais, ein Cymru.

Eleni mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dathlu 20 mlynedd ers ei sefydlu.

Ymunwch â ni i ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru gyda digwyddiadau ar draws y wlad, sy’n arwain at ŵyl ddemocratiaeth ym Mae Caerdydd, ble y gwelir enwogion o’r meysydd celfyddydau, chwaraeon, newyddiaduraeth, a gwleidyddiaeth.

GWYLIWCH

Ugain mlwyddiant Datganoli

Beth am gael ein hysbrydoli gan leisiau Cymru wrth inni fyfyrio ar ein gorffennol, rhannu ein gobeithion ar gyfer y dyfodol, a dathlu’r balchder sydd gennym yn ein cenedl.

O blith enwogion, Aelodau o’r Senedd, a phlant ysgol, mae eu negeseuon yn cyfleu hanfod datganoli a’i ystyr i ni heddiw.

Newyddion

Y newyddion diweddaraf

Yr holl newyddion diweddaraf am ddathliadau 20 mlynedd ers datganoli.

Cynulliad Dinasyddion

Sut gall pobl Cymru lunio eu dyfodol?

Ym mis Gorffennaf, bydd 60 o bobl yn cymryd rhan mewn Cynulliad Dinasyddion.

Byddant yn gwneud argymhellion ar sut y gall pawb yng Nghymru lunio eu dyfodol drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Darllenwch ragor